Datgelodd hefyd fod dau o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi gofyn i gael eu hesgusodi o unrhyw bleidlais sy'n digwydd. Mae gennym ni'n tri yma yn Politics Cymru syniad eithaf da o bwy y gall y ddau berson yna fod. Pwy dybiech chi?
Dywedodd Elin Jones bod "y mwyafrif" o'r grwp yn y Cynulliad yn cefnogi'r syniad.
Er mwyn medru cynnig mwy o arian i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano y mae Llywodraeth y Cynulliad am fabwysiadu'r cynllun hwn, ond am resymau amlwg mae'r gwrthwynebiad o rengoedd Plaid Cymru (a Llafur efallai?) yn fyddarol. Mae'n bolisi gan y Blaid i wrthwynebu ffioedd dysgu ac mae aelodau Plaid Cymru'n mynnu nad yw'r polisi yma'n cael ei newid.
Yn ôl y Llywodraeth nid yw'r cynllun presennol ble does dim modd codi ffioedd dysgu ychwanegol (topup fees) ar fyfyrwyr Cymraeg sy'n astudio yng Nghymru, yn gynaliadwy oherwydd pwysau ariannol. A oes angen felly cynyddu cyllideb y Cynulliad?
Syniad diddorol arall yw'r honno a'i chynigwyd gan Adam Price. Yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dylir aros tan y flwyddyn nesaf a gadael i'r pleidiau frwydro dros ffioedd dysgu yn eu hymgyrchoedd etholiadol. Pleidleisodd Elin Jones yn erbyn y syniad honno yr wythnos diwethaf.
Beth yw'ch barn chi ar hyn oll?
Dewi Dau

1 comment:
Diddorol a thrist. Un opsiwn posib wrth gwrs yw y bydd ffi is dal yn bodol i rheiny sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg dan adain y Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig. Byddai hynny y sicr yn stimiwlws i gynnyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Prifysgolion.
Post a Comment