Edrychwch ar Flog Paul Flynn (AS). Ar frig y 'dudalen groeso' mae dyfyniadau'n disgrifio natur gwaith yr AS. "Magnificently Rude"; "Enemy of the State"...
Disgrifiadau annymunol am wleidyddion eraill sydd wrth wraidd y datganiadau hyn ond heddiw (ynteu ddoe?) mae dadl newydd wedi'i thanio am hawl y gwr bonheddig i wneud cyhuddiadau am ei gydweithwyr.
Felly:
A ddylai cynrychiolwyr etholedig gael yr hawl i siarad yn gwbl agored am eu cydweithwyr?
Mae stori Paul Flynn yn pryfocio dadl ddiddorol am hawliau a dyletswyddau y personoliaethau hynny yr ydym yn eu hethol i'n cynrychioli. A all unrhyw sefydliad wleidyddol weithio'n hollol effeithiol heb god answyddogol o ymddygiad ble mae pob Aelod Seneddol/Cynulliad yn cydnabod ei gyfrifoldebau i'w cyd-etholedig yn ogystal a'i etholaeth? Pe bawn ni'n clywed am bob sgandal fechan ac am bob camgym feddwol sy'n digwydd yng nghoridorau mwyaf pwerus a dylanwadol cymdeithas, ni fyddai unrhyw ddatblygiad neu freuddwyd wleidyddol yn cael ei gwireddu.
Wrth gwrs ar y llaw arall, gellir dadlau bod dyletswydd ar ein swyddogion etholedig i ddatgelu diogi, anallu a gwendidau'r sawl sy'n methu a chyrraedd y safonau a'u gosodwyd ar adeg etholiad. Yn ôl y dehongliad hwn, aberth er lles gonestrwydd ydy 'cosb' ariannol Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd.
Beth yw eich barn chi?
Dewi Dau
Is Wales' homeless crisis spiralling out of control?
14 hours ago
No comments:
Post a Comment