Wednesday 8 July 2009

Tro Newydd yng Nghynffon yr LCO Iaith

Felly o'r diwedd daeth ymateb Pwyllgor Dethol Materion Cymreig San Steffan i'r cais am drosglwyddo pwerau dros yr iaith i'r Cynulliad.

Ac mae digon o inc coch i'w weld yno.

Dyma ddywedodd Vaughan am y peth ar ei flog ef:


"Ffrwyth cyfaddawdu'r [sic] yw'r LCO, cyfaddawdu yn gyntaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae ac yna cyfaddawdu pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Paul Murphy yn Swyddfa Cymru."

Er mawr ryddhad i'r rhai sy'n ymgyrchu dros yr iaith, mae'r pwyllgor yn cytuno taw yng Nghaerdydd y dylai'r pwerau i ddeddfu ar yr iaith fod. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion er bod Menna Machreth, cadeirydd CYI, yn gofidio y bydd yn rhaid aros i hyn ddigwydd:

"Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, ond mae’r adroddiad yn dweud y byddai'r Pwyllgor yn dymuno trafod y Gorchymyn eto os oes newidiadau gan y Cynulliad, sy'n achosi pryder oherwydd nid oes angen llusgo traed a gwastraffu amser ymhellach yn y broses hon," meddai.


Unwaith eto mae datganiad y pwyllgor dethol yn codi cwestiynau ynghylch faint o ymyrraeth y dylai'r pwyllgor ei gael ar union gynnwys cais am bwerau.

Mae'r Aelodau Seneddol wedi holi, er enghraifft, pam fod cwmnïau telathrebu’n cael eu cynnwys yn y cais ond fod banciau'n rhydd i wneud fel y mynnant. Cytuna Menna Machreth fod hyn yn bwynt y dylid ei thrafod:

"Dywed yr adroddiad ymhellach fod anghysondeb yn y rhestr o ddarparwyr, sef yn union beth rydym ni wedi bod yn ei ddweud oherwydd dylai bobl Cymru gael hawl i wasanaethau Cymraeg ar draws pob gwasanaeth; e.e. cynnwys trenau ond nid bysiau, telegyfathrebu ond nid banciau," meddai.

Fodd bynnag nid yw Cymdeithas yr Iaith yn credu taw lle'r pwyllgor dethol yw dweud pethau felly. Yn hytrach y Cynulliad ddylai gael gwneud y fath benderfyniadau wedi i'r pwerau gael eu trosglwyddo:

"[N]id ydym yn credu mai lle Gorchymyn sy’n trosglwyddo pwerau yw nodi hyn, ond penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad wrth lunio mesur," meddai Menna Machreth.

"Mae pobl Cymru wedi gorfod gwneud y tro â gwasanaethau Cymraeg tocenistig os o gwbl yn ddigon hir, mae'n bryd rhoi hawl i’r Gymraeg i’r rheiny sydd am fyw drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu sefyllfa fwy cyfartal i’r iaith yng Nghymru," ychwanegodd.

Dewi Dau

llun wedi ei ddefnyddio gyda chaniatad 'Crystl': http://www.flickr.com/photos/crystalflickr/98542851/


Share

1 comment:

bethan said...

dwi wedi neud blog ar y peth nawr- www.bethanjenkinsblog.org.uk