Showing posts with label Cymraeg. Show all posts
Showing posts with label Cymraeg. Show all posts

Wednesday, 8 July 2009

Tro Newydd yng Nghynffon yr LCO Iaith

Felly o'r diwedd daeth ymateb Pwyllgor Dethol Materion Cymreig San Steffan i'r cais am drosglwyddo pwerau dros yr iaith i'r Cynulliad.

Ac mae digon o inc coch i'w weld yno.

Dyma ddywedodd Vaughan am y peth ar ei flog ef:


"Ffrwyth cyfaddawdu'r [sic] yw'r LCO, cyfaddawdu yn gyntaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae ac yna cyfaddawdu pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Paul Murphy yn Swyddfa Cymru."

Er mawr ryddhad i'r rhai sy'n ymgyrchu dros yr iaith, mae'r pwyllgor yn cytuno taw yng Nghaerdydd y dylai'r pwerau i ddeddfu ar yr iaith fod. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion er bod Menna Machreth, cadeirydd CYI, yn gofidio y bydd yn rhaid aros i hyn ddigwydd:

"Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, ond mae’r adroddiad yn dweud y byddai'r Pwyllgor yn dymuno trafod y Gorchymyn eto os oes newidiadau gan y Cynulliad, sy'n achosi pryder oherwydd nid oes angen llusgo traed a gwastraffu amser ymhellach yn y broses hon," meddai.


Unwaith eto mae datganiad y pwyllgor dethol yn codi cwestiynau ynghylch faint o ymyrraeth y dylai'r pwyllgor ei gael ar union gynnwys cais am bwerau.

Mae'r Aelodau Seneddol wedi holi, er enghraifft, pam fod cwmnïau telathrebu’n cael eu cynnwys yn y cais ond fod banciau'n rhydd i wneud fel y mynnant. Cytuna Menna Machreth fod hyn yn bwynt y dylid ei thrafod:

"Dywed yr adroddiad ymhellach fod anghysondeb yn y rhestr o ddarparwyr, sef yn union beth rydym ni wedi bod yn ei ddweud oherwydd dylai bobl Cymru gael hawl i wasanaethau Cymraeg ar draws pob gwasanaeth; e.e. cynnwys trenau ond nid bysiau, telegyfathrebu ond nid banciau," meddai.

Fodd bynnag nid yw Cymdeithas yr Iaith yn credu taw lle'r pwyllgor dethol yw dweud pethau felly. Yn hytrach y Cynulliad ddylai gael gwneud y fath benderfyniadau wedi i'r pwerau gael eu trosglwyddo:

"[N]id ydym yn credu mai lle Gorchymyn sy’n trosglwyddo pwerau yw nodi hyn, ond penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad wrth lunio mesur," meddai Menna Machreth.

"Mae pobl Cymru wedi gorfod gwneud y tro â gwasanaethau Cymraeg tocenistig os o gwbl yn ddigon hir, mae'n bryd rhoi hawl i’r Gymraeg i’r rheiny sydd am fyw drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu sefyllfa fwy cyfartal i’r iaith yng Nghymru," ychwanegodd.

Dewi Dau

llun wedi ei ddefnyddio gyda chaniatad 'Crystl': http://www.flickr.com/photos/crystalflickr/98542851/


Share

Tuesday, 9 June 2009

Dim croeso i ddysgwraig o'r Wladfa! | Welsh learner sent packing!

Mae dysgwraig o Batagonia wedi cael ei gwrthod rhag ddod i Gymru i ddysgu'r Gymraeg gan y Swyddfa Gartref.

Bwriad Evelyn Calcabrini oedd aros efo teulu yng Ngogledd Cymru i ddysgu Cymraeg ond ar ôl iddi wynebu swyddogion mewnfudo ym Maes Awyr Heathrow fe gafodd hi ei throi i ffwrdd.

Mae Politics Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth y Cynulliad am ymateb ond fe ddywedon nhw wrthon ni nad mater iddyn nhw ydy mewnfudo a materion yn ymwneud a ffiniau'r wlad.

Mwy i ddilyn - cadwch lygad!

Dewi Dau
------------------------------------------------

A Welsh learner from Patagonia who was hoping to visit Wales to improve her understanding of the language has been turned away by immigration officials.

Evelyn Calcabrini was turned away at Heathrow airport after being questioned by officials.

Politics Cymru has spoken to the Welsh Assembly Government. They told us they could not comment because immigration is not a devolved field.

More to follow - keep an eye!

Dewi Dau

Share

Monday, 8 June 2009

Parti Plaid - sgwrs efo IWJ a Jill Evans

Un sedd yn unig gawson nhw ond heddiw roedd byddin y Blaid allan i ddathlu ei llwyddiant yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Roedd y baneri allan a Ieuan Wyn Jones yn wen o glust i glust wrth gyflwyno tusw lliwgar iawn o flodau i ASE Plaid Cymru, Jill Evans.

Mi fues i’n siarad efo’r ddau ohonyn nhw wedi i’r dathliad ddod i ben.

Dyma'r sgwrs efo arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. Fe ddechreuais i drwy ofyn iddo am ei ymateb i ganlyniadau'r etholiadau:



A dyma ddywedodd Jill Evans wrtha'i pan ofynais i iddi hithau am ei hymateb:



Dewi Dau

Share

Tuesday, 21 April 2009

Sgwrs a chlonc yng Nghynhadledd y DemRhydds

Ac felly o'r diwedd dyma gyfweliadau Cymraeg o gynhadledd gwanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd.

Fe ges i gyfle i sgwrsio ag Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Eleanor Burnham am gael ieuenctid i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Bues i hefyd yn siarad efo'r Cyng. Aled Morris Jones - cadeirydd Cyngor Môn am Ewrop a phŵer niwclear.



Dewi Dau

Share

Tuesday, 17 March 2009

Tin o Fîns Menna

Mewn cyfarfod cyhoeddus neithiwr i drafod yr LCO iaith gwnaeth Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth, gymhariaeth ddiddorol.

Er gwaethaf ymdrechion diflino a chreadigol Dewi Un i esbonio'r broses gyfreithiol i Dewi Tri a minnau dydy e erioed wedi cymharu LCO i din o fîns! Felly wnaeth Menna wrth amlinellu'r hyn y byddai'n ei ddweud wrth y pwyllgor craffu y bore ma.

Yn ôl Menna mae'r LCO fel tin o fîns y mae'r Llyodraeth yn ceisio ei werthu a rôl Menna a'i chyfeillion yn y Gymdeithas yw edrych ar gefn y tin i weld beth yn hollol yw'r cynhwysion! (A dyna chithau'n disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy dadleuol!)

Ailadrodd yr un hen ddadleuon wnaeth hi ar ol yr agoriad lliwgar honno:

  • mae'r LCO'n rhy gul ac yn rhy agos at ddeddf 1993
  • mae angen Comisiynydd Iaith
  • rhaid gorfodi'r archfarchnadoedd i gynnig gwanaethau dwyieithog "o'r crud i'r bedd a thu hwnt" (!)
Dyma'r neges gyflwynodd Menna ar ran CYI i'r pwyllgor craffu heddiw ac a fydd yn cael ei chyflwyno eto yn Nhy'r Cyffredin yr wythnos nesaf.

Gellir gwylio'r drafodaeth yma.

Neges llawn daioni? Neu llond lle o wynt? Beth yw eich barn chi ar yr LCO iaith?

Neges arall a ddaeth o'r noson oedd honno a gyflwynodd Leanne Wood, AC Plaid Cymru. Yn ôl Leanne mae angen dechrau lledaenu'r neges i'r Cymry di-gymraeg er mwyn iddynt hwythau fod yn ran o'r ddadl ac chael cyfle i estyn cefnogaeth i achos yr iaith. Onid yw hi'n berysglus anghofio am y di-Gymraeg a chredu nad yw'r iaith yn rywbeth sy'n bwysig iddynt hwythau?

Roedd rhyw 30 o bobl wedi ymgynull ar gyfer y cyfarfod gyda dim ond un angen offer cyfieithu - Leanne ei hun. Rhaid edmygu ymdrechion CYI i wahodd adborth gan y cyhoedd ond a yw'r neges yn ddigon bell-gyrhaeddiol?

Dewi Dau

Share

Wednesday, 25 February 2009

Ffioedd Dysgu - y diweddara'

Mewn cynhadledd i'r wasg ddoe fe gadarnhaodd Elin Jones ei bod hi a gweinidogion eraill Plaid Cymru yn y Cynulliad yn bwriadu cefnogi cynllun y Llywodraeth i gyflwyno ffioedd dysgu. Mae hyn er gwaethaf canlyniad pleidlais a ddigwyddodd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Datgelodd hefyd fod dau o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi gofyn i gael eu hesgusodi o unrhyw bleidlais sy'n digwydd. Mae gennym ni'n tri yma yn Politics Cymru syniad eithaf da o bwy y gall y ddau berson yna fod. Pwy dybiech chi?

Dywedodd Elin Jones bod "y mwyafrif" o'r grwp yn y Cynulliad yn cefnogi'r syniad.

Er mwyn medru cynnig mwy o arian i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano y mae Llywodraeth y Cynulliad am fabwysiadu'r cynllun hwn, ond am resymau amlwg mae'r gwrthwynebiad o rengoedd Plaid Cymru (a Llafur efallai?) yn fyddarol. Mae'n bolisi gan y Blaid i wrthwynebu ffioedd dysgu ac mae aelodau Plaid Cymru'n mynnu nad yw'r polisi yma'n cael ei newid.

Yn ôl y Llywodraeth nid yw'r cynllun presennol ble does dim modd codi ffioedd dysgu ychwanegol (topup fees) ar fyfyrwyr Cymraeg sy'n astudio yng Nghymru, yn gynaliadwy oherwydd pwysau ariannol. A oes angen felly cynyddu cyllideb y Cynulliad?

Syniad diddorol arall yw'r honno a'i chynigwyd gan Adam Price. Yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dylir aros tan y flwyddyn nesaf a gadael i'r pleidiau frwydro dros ffioedd dysgu yn eu hymgyrchoedd etholiadol. Pleidleisodd Elin Jones yn erbyn y syniad honno yr wythnos diwethaf.

Beth yw'ch barn chi ar hyn oll?

Dewi Dau

Share

Sunday, 15 February 2009

yr LCO iaith - eich barn chi

Gobeithio eich bod oll wedi mwynhau'r gem ddoe!

Dyma ganlyniad terfynol ein pol opiniwn ar yr LCO iaith:

Mae'r LCO iaith yn rhy pell-gyrhaeddiol - 1 pleidlais
Nid yw'r LCO yn mynd yn ddigon pell - 17
Nid dyma'r amser i fod yn trafod y pwnc hwn - 3

Dyna'r ffigurau. Cewch chi benderfynu sut mae eu dadansoddi!

Diolch i chi am daro'ch pleidlais.

Dewi Dau

Share

Thursday, 5 February 2009

Menna Machreth yn Mynnu Mwy

Yn dilyn "diwrnod hanesyddol i'r iaith" ges i sgwrs efo Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Fe gawsom ni gyfle i drafod ymateb CYI at gynnwys yr LCO ac fe rannodd Menna ei gobeithion ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.

Hoffwn i ymddiheuro am ansawdd y recordiad: roedd Menna ar drên ar ei ffordd adref o Ferthyr ble y cyhoeddwyd yr LCO iaith ddydd Llun.



Diolch i Menna am roi o'i hamser.

Dewi Dau

Share

Saturday, 31 January 2009

Yr LCO iaith! The language LCO!

Mae Politics Cymru'n deall y bydd yr LCO iaith yn cael ei chyhoeddi am hanner dydd, ddydd Llun, ym Merthyr Tudful.

Nid ydym yn gwybod eto beth fydd cynnwys yr LCO. Yn ol un ffynhonnell "mae'n brin ond yn gam ymlaen".

***************

Politics Cymru understands the Welsh language LCO will finally be announced at midday on Monday in Merthyr Tydfil.

As yet its contents are unknown. One source said "it's limited but a it's a step forward".

Dewi Dau

Share

Friday, 2 January 2009

Sgwrs efo Kirsty - yn y 'gym'!

Deg munud o rwyfo, chwarter awr ar y peiriant rhedeg...a darlith gan aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol!

Dyma syniad Kirsty Williams o sesiwn yn y gampfa! Mae arweinydd(es) cyntaf unrhyw blaid gwleidyddol yng Nghymru'n gobeithio dyblu cefnogaeth ei phlaid drwy annog pob aelod presennol i sgwrsio ag etholwyr eraill - mewn canolfannau hamdden, y tu allan i ysgolion ac yn ein tafarndai.

"It may be stating the obvious but if every one of us signed up just one more member, this party would double in size. That’s my challenge to you – to persuade one person you know to join.

"There must be someone in your street, your family, your local pub, at the school gate, at the gym, wherever, who shares your beliefs, my beliefs, our beliefs in a better future for Wales."


Rhaid edmygu brwdfrydedd Ms Williams, sydd ei hun yn honni i fod yn ffan o nosweithiau 'Pizza a gwleidyddiaeth'. A phwy a wyr, os yw ei chynllun yn enghraifft o'r hyn sydd i ddod o'r blaid ar ei newydd-wedd, efallai nad yw 'prosiect 31' Kirsty yn rhy uchelgeisiol wedi'r cyfan!

Amser a ddengys pa mor lwyddiannus fydd Ms Williams yn y Senedd, ond yn barod mae hi (a'i jins) yn gadael'u marc.

Dewi Dau

Share

Monday, 15 December 2008

Kirsty.com

Wythnos ers i Kirsty Williams esgyn i frig y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nghymru ac mae Aelod Cynulliad Aberhonddu a Sir Faesyfed yn barod yn ceisio symud ei phlaid ymlaen.

Heddiw mae hi’n ymweld ag Abertawe cyn teithio i’r gogledd ar gyfer cyfarfodydd ym Mae Colwyn a Wrecsam ddydd Iau.

Mae hi hefyd wedi lansio blog newydd a fydd yn tynnu deunydd blogiau niferus y Democratiaid Rhyddfrydol ynghyd. Ymhlith y blogiau hyn y mae gwefannau Peter Black, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell Nedd, a Democratiaid Rhyddfrydol Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Gimic? Efallai. Ond ar yr un pryd dyma gam sy’n dangos parodrwydd yr arweinydd newydd i ddefnyddio cyfryngau modern er mwyn gwthio proffil ei phlaid. Mae ei chyfiawnhad hefyd yn ddigon teg:

“Blogs allow anyone to have their say. And they bring politics to wherever you are, not some building which may be hundreds of miles from your home” meddai Kirsty.

Ond rhaid holi faint o’r boblogaeth hŷn yng nghorneli cefn gwlad Cymru sy’n debygol o fynd ar y wê er mwyn darllen syniadau diweddaraf cefnogwyr y Lib Dems. Hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffaith taw gwefan uniaith Saesneg yw hon ac felly pa siawns o herio Plaid Cymru yn eu cadarnleodd hwythau?

Ai achos o’r Lib Dems yn cydnabod taw ym mhoblogaeth myfyrwyr di-Gymraeg Cymru y mae cefnogaeth i’w chael yw hyn?

Amser a ddengys. Ond yn sicr does gan Ms Williams fawr o obaith ennill 31 sedd heb apelio at Gymry Cymraeg a'r rheini sydd dros oedran graddio!

Dewi Dau

Share

Sunday, 7 December 2008

Gadewch neges...

Stori ddoniol (a phennawd arbennig hefyd) yn y Wales on Sunday heddiw. Mae’n debyg bod yn rhaid i’n Haelodau Cynulliad wasgu 14 (ie, 14!) botwm er mwyn gwrando ar eu negeseuon ffôn! Fel mae’n digwydd, roedd Dewi Tri yno i weld cyfraniad holl-bwysig y Pleidiwr, Mohammad Asghar yng nghyfarfod y Cynulliad ddydd Mercher. Aelod Cynulliad De Ddwyrain Cymru oedd y dyn dewr a gwestiynodd gyfleusterau cyfathrebu ein sefydliad gwleidyddol.

Stori ddoniol efallai ond mae yna gwestiynau eithaf difrifol yn ymddangos o’r holl beth. A fyddai mawrion gwleidyddol San Steffan yn gorfod ymdrafferthu â theclynnau mor syml â pheiriannau ateb fel hyn? Mae’n anodd credu y byddai gwleidyddion yr Undeb Ewropeaidd, ble daw ieithoedd lu at ei gilydd, yn gorfod gwastraffu amser wrth gadarnhau eu henwau, eu rhifau ffôn a’u hieithoedd er mwyn gwrando ar neges gan etholwr neu gydweithiwr.

Sut all ein sefydliad ninnau obeithio cael ei hystyried yn gorff gwleidyddol aeddfed a chyfrifol os na all ein cynrychiolwyr ymdrin yn effeithiol â’r dasg weddol sylfaenol o wrando ar negeseuon ffôn?

Anghofiwch y ddadl am ehangu’r cytundeb cyfansoddiadol. Wedi’r cyfan sut byddai Mr. Asghar a’i gyfeillion yn ymdopi â mwy o waith a chyfrifoldebau heb gyfleusterau addas ar gyfer eu defnyddio?

Efallai'n gyntaf dylid galw’r technegwyr (os nad ydy hynny’n rhy gymhleth yn y lle cyntaf) a holi am beiriannau ateb newydd.

Byddai gobeithion yr ymgyrch ‘ie’ dros y fath achos dipyn yn well, dybiwn i!

Dewi Dau

Share

Tuesday, 2 December 2008

Y Lib Dems mewn picl!

Felly dyma gynghorydd ym Merthyr Tudful yn gadael y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn ymuno â’r Blaid Lafur.

“I have grown greatly disillusioned with the Liberal Democrats”;

“Scoring cheap political points in the council chamber is not something I want to be involved in. I didn’t get involved in politics for that.”


Dyma rai o ddyfyniadau’r Cynghorydd Brent Carter a’i etholwyd yn gynrychiolydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau mis Mai.

Mae penderfyniad Cyng. Carter, sy’n cynrychioli ward Plymouth ym Merthyr, yn golygu bod y blaid felen erbyn hyn wedi colli treian o’u seddi i gyd ar gyngor Merthyr. Ym mis Hydref collwyd set arall wrth i’r blaid Lafur ennill isetholiad i’r cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Kurt Morgan.

Nawr fe allwn ni holi cwestiwn ynglŷn ag hawl cynghorwr i newid plaid fel hyn, ac hynny heb yr angen am ymgynghori â’r bobl hynny a roddodd ‘x’ drosto – ynteu dros ei blaid (?) fis Mai. O mor ddemocrataidd!

Gallwn hefyd ofyn cwestiynau am ddarpariaeth y Gymraeg ar wefan Cyngor Sir Merthyr Tudful!

Ond be mae hyn yn ei olygu i’r democratiaid Rhyddfrydol yn awr? Pa obaith sydd yna i blaid na all hyd yn oed atal ei aelodau etholedig ei hun rhag droi eu cefnau arni?

Yn sydyn iawn (er nid mor sydyn a hynny ‘chwaith) mae prosiect 31 Kirsty yn ymddangos rhyw fymryn yn uchelgeisiol!

Dewi Dau

Share

Monday, 24 November 2008

Ariannu'r Eisteddfod: a oes heddwch?

Dadl ddiddorol wedi'i chychwyn heddiw (ynteu wedi'i hailgychwyn) ynglyn ag ariannu ein prifwyl genedlaethol. Mae'r Eisteddfod yn gofyn am rodd ychwanegol o £188,000 oddi wrth y Cynulliad. Mae'r Cynulliad yn barod yn rhoi £480,000 i'r Eisteddfod yn flynyddol tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfrannu £350,000 at gynnal yr wyl bob blwyddyn.

A felly dyma ofyn os ddylai'r Cynulliad fod yn gwario cymaint ar ddigwyddiad sydd ond yn effeithio canran weddol fechan o'r boblogaeth. Onid oes dyletswydd ar ein corff llywodraethol i ofalu bod arian yn cael ei wario ble mae'r angen mwya' amdano (yn enwedig o ystyried ein trafferthion economiadd diweddar). Ai nid yn ein cymunedau tlotaf, ym myd addysg, iechyd a thrafnidiaeth y mae'r angen mwyaf am fuddsoddiad gan y treth-dalwr?

Heb os, mae'n rhaid cynnal digwyddiad sydd yn gwneud cymaint dros ein hiaith a'n diwylliant. Mae'r syniad o weld yr Eisteddfod yn diflannu a hithau wedi bod yn wyl mor bwysig ers 1176 yn fy nychryn. Byddai gweld marwolaeth yr Eisteddfod yn taro hoelen arall yn arch ein treftadaeth.

Ac wrth gwrs bod dyletswydd ar y Cynulliad i helpu ymdrechion yr Eisteddfod. Ai nid hynny ydy raison d'etre ein Gweinidiog Treftadaeth?

Ond a ddylid gosod pwysau mor fawr ar gorff democrataidd, sydd i fod i gynrychioli pob sector o gymdeithas, i gyfrannu cymaint o arian bob blwyddyn at ddigwyddiad sydd o hyd yn weddol neilltuol? Mae'r Cynulliad yn barod wedi ennyn beirniadaeth hallt eleni am ariannu Canolfan y Mileniwm felly ai nid annheg ydy gofyn iddi am fwy o arian?

Nid sugar-daddy ydy'r Cynulliad ond mae 'na ddigon o bobl cefnog o'n cwmpas sy'n pregethu am bwysigrwydd traddodiadau Cymreig ac am ddyfodol ein hiaith. Maen nhw'n barod yn dweud 'i dweud, efallai ei bod hi'n amser iddyn nhw ddechrau gwneud hefyd.

Be ydych chi'n ei feddwl?

Dewi Dau

Thursday, 20 November 2008

Cymraeg in Brussels

Bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf heddiw. Bydd Alun Ffred Jones yn cyfarfod gyda’r pwyllgor diwylliant ym Mrwsel yn hwyrach.

Mae’r stori yma o’r Western Mail
Read the story in the Western Mail


This is a big step towards having Welsh accepted as the 24th language of the European Union.

However, the flip side might be that more money will have to be spent on translating proceedings for what is ultimately a minority language because where, ultimately, should the EU draw the line? Within the UK alone there’s Irish Gaelic, Scottish Gaelic, Manx and Cornish – should taxpayer money be spent on translating all of these languages too?

Dewi Tri

Paul Flynn: arwr yr etholwr, gelyn y gwleidydd

Edrychwch ar Flog Paul Flynn (AS). Ar frig y 'dudalen groeso' mae dyfyniadau'n disgrifio natur gwaith yr AS. "Magnificently Rude"; "Enemy of the State"...

Disgrifiadau annymunol
am wleidyddion eraill sydd wrth wraidd y datganiadau hyn ond heddiw (ynteu ddoe?) mae dadl newydd wedi'i thanio am hawl y gwr bonheddig i wneud cyhuddiadau am ei gydweithwyr.

Felly:

A ddylai cynrychiolwyr etholedig gael yr hawl i siarad yn gwbl agored am eu cydweithwyr?


Mae stori Paul Flynn yn pryfocio dadl ddiddorol am hawliau a dyletswyddau y personoliaethau hynny yr ydym yn eu hethol i'n cynrychioli. A all unrhyw sefydliad wleidyddol weithio'n hollol effeithiol heb god answyddogol o ymddygiad ble mae pob Aelod Seneddol/Cynulliad yn cydnabod ei gyfrifoldebau i'w cyd-etholedig yn ogystal a'i etholaeth? Pe bawn ni'n clywed am bob sgandal fechan ac am bob camgym feddwol sy'n digwydd yng nghoridorau mwyaf pwerus a dylanwadol cymdeithas, ni fyddai unrhyw ddatblygiad neu freuddwyd wleidyddol yn cael ei gwireddu.


Wrth gwrs ar y llaw arall, gellir dadlau bod dyletswydd ar ein swyddogion etholedig i ddatgelu diogi, anallu a gwendidau'r sawl sy'n methu a chyrraedd y safonau a'u gosodwyd ar adeg etholiad. Yn ôl y dehongliad hwn, aberth er lles gonestrwydd ydy 'cosb' ariannol Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd.


Beth yw eich barn chi?


Dewi Dau

Wednesday, 19 November 2008

Croeso and Hello


Hello and Welcome to the "Politics Cymru" Blog

Croeso i Flog gwleidyddiaeth "Politics Cymru"

Just a little introductory message to the Blog. The idea is that we will be posting written pieces and some audio/visual podcasts all to do with Welsh politics.

We are not here to push any particular agenda or plug one party over the other, we are just offering our comment and analysis on what's happening politically in Wales and how this may or may not affect us all.

Hopefully you will find some of this interesting and please comment on what we are doing and give us your opinions as well.

I hope you enjoy reading and listening as much as we enjoy making the Blog.

Diolch am ddarllen

Hwyl am y tro / Cheerio

Dewi Un
Image used courtesy of smoobs @ http://www.flickr.com/photos/smoo/435491142/