Dadl ddiddorol wedi'i chychwyn heddiw (ynteu wedi'i hailgychwyn) ynglyn ag ariannu ein prifwyl genedlaethol. Mae'r Eisteddfod yn gofyn am rodd ychwanegol o £188,000 oddi wrth y Cynulliad. Mae'r Cynulliad yn barod yn rhoi £480,000 i'r Eisteddfod yn flynyddol tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfrannu £350,000 at gynnal yr wyl bob blwyddyn.
A felly dyma ofyn os ddylai'r Cynulliad fod yn gwario cymaint ar ddigwyddiad sydd ond yn effeithio canran weddol fechan o'r boblogaeth. Onid oes dyletswydd ar ein corff llywodraethol i ofalu bod arian yn cael ei wario ble mae'r angen mwya' amdano (yn enwedig o ystyried ein trafferthion economiadd diweddar). Ai nid yn ein cymunedau tlotaf, ym myd addysg, iechyd a thrafnidiaeth y mae'r angen mwyaf am fuddsoddiad gan y treth-dalwr?
Heb os, mae'n rhaid cynnal digwyddiad sydd yn gwneud cymaint dros ein hiaith a'n diwylliant. Mae'r syniad o weld yr Eisteddfod yn diflannu a hithau wedi bod yn wyl mor bwysig ers 1176 yn fy nychryn. Byddai gweld marwolaeth yr Eisteddfod yn taro hoelen arall yn arch ein treftadaeth.
Ac wrth gwrs bod dyletswydd ar y Cynulliad i helpu ymdrechion yr Eisteddfod. Ai nid hynny ydy raison d'etre ein Gweinidiog Treftadaeth?
Ond a ddylid gosod pwysau mor fawr ar gorff democrataidd, sydd i fod i gynrychioli pob sector o gymdeithas, i gyfrannu cymaint o arian bob blwyddyn at ddigwyddiad sydd o hyd yn weddol neilltuol? Mae'r Cynulliad yn barod wedi ennyn beirniadaeth hallt eleni am ariannu Canolfan y Mileniwm felly ai nid annheg ydy gofyn iddi am fwy o arian?
Nid sugar-daddy ydy'r Cynulliad ond mae 'na ddigon o bobl cefnog o'n cwmpas sy'n pregethu am bwysigrwydd traddodiadau Cymreig ac am ddyfodol ein hiaith. Maen nhw'n barod yn dweud 'i dweud, efallai ei bod hi'n amser iddyn nhw ddechrau gwneud hefyd.
Be ydych chi'n ei feddwl?
Dewi Dau
A looming trade war?
23 hours ago
3 comments:
Er fy mod i'n mwynhau'r eisteddfod bob blwyddyn dwi ddim yn siwr a ellith, na chwaith a ddylai'r cynulliad gyfiawnhau rhoi mwy o arian i'r eisteddfod. Ma nw eisioes yn cael cyfraniad go helaeth. Oni ddylai'r eisteddfod allu bod yn hunan gynhaliol ac ymateb trwy symud ymlaen a newid i lenwi'r bwlch ariannol?
Completely agree that the Eisteddfod needs support - but the organisers can't be thinking straight if they believe now's the time to be asking for more money!
Thanks for this nice info.
__
Oes Tsetnoc
Post a Comment