Stori ddoniol (a phennawd arbennig hefyd) yn y Wales on Sunday heddiw. Mae’n debyg bod yn rhaid i’n Haelodau Cynulliad wasgu 14 (ie, 14!) botwm er mwyn gwrando ar eu negeseuon ffôn! Fel mae’n digwydd, roedd Dewi Tri yno i weld cyfraniad holl-bwysig y Pleidiwr, Mohammad Asghar yng nghyfarfod y Cynulliad ddydd Mercher. Aelod Cynulliad De Ddwyrain Cymru oedd y dyn dewr a gwestiynodd gyfleusterau cyfathrebu ein sefydliad gwleidyddol.
Stori ddoniol efallai ond mae yna gwestiynau eithaf difrifol yn ymddangos o’r holl beth. A fyddai mawrion gwleidyddol San Steffan yn gorfod ymdrafferthu â theclynnau mor syml â pheiriannau ateb fel hyn? Mae’n anodd credu y byddai gwleidyddion yr Undeb Ewropeaidd, ble daw ieithoedd lu at ei gilydd, yn gorfod gwastraffu amser wrth gadarnhau eu henwau, eu rhifau ffôn a’u hieithoedd er mwyn gwrando ar neges gan etholwr neu gydweithiwr.
Sut all ein sefydliad ninnau obeithio cael ei hystyried yn gorff gwleidyddol aeddfed a chyfrifol os na all ein cynrychiolwyr ymdrin yn effeithiol â’r dasg weddol sylfaenol o wrando ar negeseuon ffôn?
Anghofiwch y ddadl am ehangu’r cytundeb cyfansoddiadol. Wedi’r cyfan sut byddai Mr. Asghar a’i gyfeillion yn ymdopi â mwy o waith a chyfrifoldebau heb gyfleusterau addas ar gyfer eu defnyddio?
Efallai'n gyntaf dylid galw’r technegwyr (os nad ydy hynny’n rhy gymhleth yn y lle cyntaf) a holi am beiriannau ateb newydd.
Byddai gobeithion yr ymgyrch ‘ie’ dros y fath achos dipyn yn well, dybiwn i!
Dewi Dau
A looming trade war?
22 hours ago
No comments:
Post a Comment