Wythnos ers i Kirsty Williams esgyn i frig y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nghymru ac mae Aelod Cynulliad Aberhonddu a Sir Faesyfed yn barod yn ceisio symud ei phlaid ymlaen.
Heddiw mae hi’n ymweld ag Abertawe cyn teithio i’r gogledd ar gyfer cyfarfodydd ym Mae Colwyn a Wrecsam ddydd Iau.
Mae hi hefyd wedi lansio blog newydd a fydd yn tynnu deunydd blogiau niferus y Democratiaid Rhyddfrydol ynghyd. Ymhlith y blogiau hyn y mae gwefannau Peter Black, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell Nedd, a Democratiaid Rhyddfrydol Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
Gimic? Efallai. Ond ar yr un pryd dyma gam sy’n dangos parodrwydd yr arweinydd newydd i ddefnyddio cyfryngau modern er mwyn gwthio proffil ei phlaid. Mae ei chyfiawnhad hefyd yn ddigon teg:
“Blogs allow anyone to have their say. And they bring politics to wherever you are, not some building which may be hundreds of miles from your home” meddai Kirsty.
Ond rhaid holi faint o’r boblogaeth hŷn yng nghorneli cefn gwlad Cymru sy’n debygol o fynd ar y wê er mwyn darllen syniadau diweddaraf cefnogwyr y Lib Dems. Hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffaith taw gwefan uniaith Saesneg yw hon ac felly pa siawns o herio Plaid Cymru yn eu cadarnleodd hwythau?
Ai achos o’r Lib Dems yn cydnabod taw ym mhoblogaeth myfyrwyr di-Gymraeg Cymru y mae cefnogaeth i’w chael yw hyn?
Amser a ddengys. Ond yn sicr does gan Ms Williams fawr o obaith ennill 31 sedd heb apelio at Gymry Cymraeg a'r rheini sydd dros oedran graddio!
Dewi Dau
A looming trade war?
23 hours ago
No comments:
Post a Comment