Er gwaethaf ymdrechion diflino a chreadigol Dewi Un i esbonio'r broses gyfreithiol i Dewi Tri a minnau dydy e erioed wedi cymharu LCO i din o fîns! Felly wnaeth Menna wrth amlinellu'r hyn y byddai'n ei ddweud wrth y pwyllgor craffu y bore ma.
Yn ôl Menna mae'r LCO fel tin o fîns y mae'r Llyodraeth yn ceisio ei werthu a rôl Menna a'i chyfeillion yn y Gymdeithas yw edrych ar gefn y tin i weld beth yn hollol yw'r cynhwysion! (A dyna chithau'n disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy dadleuol!)
Ailadrodd yr un hen ddadleuon wnaeth hi ar ol yr agoriad lliwgar honno:
- mae'r LCO'n rhy gul ac yn rhy agos at ddeddf 1993
- mae angen Comisiynydd Iaith
- rhaid gorfodi'r archfarchnadoedd i gynnig gwanaethau dwyieithog "o'r crud i'r bedd a thu hwnt" (!)
Gellir gwylio'r drafodaeth yma.
Neges llawn daioni? Neu llond lle o wynt? Beth yw eich barn chi ar yr LCO iaith?
Neges arall a ddaeth o'r noson oedd honno a gyflwynodd Leanne Wood, AC Plaid Cymru. Yn ôl Leanne mae angen dechrau lledaenu'r neges i'r Cymry di-gymraeg er mwyn iddynt hwythau fod yn ran o'r ddadl ac chael cyfle i estyn cefnogaeth i achos yr iaith. Onid yw hi'n berysglus anghofio am y di-Gymraeg a chredu nad yw'r iaith yn rywbeth sy'n bwysig iddynt hwythau?
Roedd rhyw 30 o bobl wedi ymgynull ar gyfer y cyfarfod gyda dim ond un angen offer cyfieithu - Leanne ei hun. Rhaid edmygu ymdrechion CYI i wahodd adborth gan y cyhoedd ond a yw'r neges yn ddigon bell-gyrhaeddiol?
Dewi Dau
No comments:
Post a Comment