Wednesday 3 June 2009

Golwg 360 - Y Cwn a'r Goeden

Newydd gyrraedd adre o lawnsiad Golwg 360 yn y Senedd. Datblygiad bwysig i newyddiaduraeth Gymreig - gwasanaeth a all gystadlu yn erbyn y BBC yng Nghymru. Y gobaith nawr wrth gwrs yw y bydd yn llwyddiannus.

Mae’r wefan wedi cael hanes digon sigledig hyd yn hyn - gyda sawl Aelod Cynulliad (Alun Cairns y bore ma er enghraifft) yn cwestiynu pam fod y llywodraeth yn cyfrannu tuag at y fath fenter. Er hyn heno roedd cefnogaeth y llywodraeth i’r wefan yn gryf - Rhodri Morgan yno yn siarad am bwysigrwydd lluosogrwydd yn newyddiaduraeth Cymreig. Fe wnaeth Rhodri Morgan hefyd son am y berthynas bwysig rhwng y wasg a gwleidyddion a’i chymharu mewn ffordd ysgafn a chwn yn pisho (esgusodwch fy Ffrangeg) yn erbyn coeden - ond p'run ydy p'run? (Atebion ar gerdyn post plis.)

Paul Davies ac Eleanor Burnham oedd yno'n cynrychioli’r Cynulliad ac i gefnogi’r fenter (dwi’n siwr y gwnes i ddarllen yn ddiweddar bod Paul Davies yn erbyn cynlluniau Golwg 360?) ond tybed beth ydy rol y Cynulliad i gefnogi’r wasg ehangach yng Nghymru? Oes yna le i’r Cynulliad ariannu adrannau newyddion ITV ac S4C? Pa mor bell y dylen nhw fynd tybed? Fe fydd y dadlau yn cynyddu dros yr wythnosau nesa' wrth i adroddiadau ‘Digital Britain’ ac adroddiad gan y Cynulliad gael eu cyhoeddi.

Mae newyddiaduraeth Cymru mewn man diddorol ac yn sicr fe fydd yn newid llawer dros y misoedd a'r blynyddoedd nesa' - y gobaith heno, yw taw Golwg 360 yw’r cam cyntaf ar y ffordd i ddyfodol disglair i’r wasg Gymreig.

Dewi Un

P.S Rhaid i mi ganmol y buffet - brechdanau blasus a gwin hyfryd…

Share

4 comments:

Anonymous said...

dwi'm yn deall, lansiwyd (os dyna'r gair am wefan sydd ddim ar gael mewn unrhyw ffordd ystyrlon) Golwg360 rhyw bythefnos yn ol. Pam fod lansiad arall i gael ddoe 'te 3 Mehefin ... neu a yw hon yn hen bostiad sydd newydd fynd yn fyw?

Politics Cymru said...

Neithiwr oedd y lawnsiad swyddogol. Diolch am eich sylw.

Anonymous said...

sut mae ganddyn nhw'r wyneb i lansio gwefan sydd dal ddim yn gweithio!? Dwi'n cael sgrin wen wrth fynd iddo. Wnaeth yr ACau ddweud unrhywbeth neu oedd pawb yn esgus bach fod popeth yn ok?

Unknown said...

O leia gaethoch chi lenwi'ch bol, dyna gyd sy'n bwysig (dyma dyfodol newyddiaduraeth Cymru?)

Mae'r safle mewn beta nawr ac yn cael ei ddatblygu (eto), ac wrth gwrs rhywbryd fe fyddan nhw'n lansio "go iawn, ni'n addo tro yma". Esgus am 'lansiad' arall a mwy o siampên tsiep!