Tuesday 2 December 2008

Y Lib Dems mewn picl!

Felly dyma gynghorydd ym Merthyr Tudful yn gadael y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn ymuno â’r Blaid Lafur.

“I have grown greatly disillusioned with the Liberal Democrats”;

“Scoring cheap political points in the council chamber is not something I want to be involved in. I didn’t get involved in politics for that.”


Dyma rai o ddyfyniadau’r Cynghorydd Brent Carter a’i etholwyd yn gynrychiolydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau mis Mai.

Mae penderfyniad Cyng. Carter, sy’n cynrychioli ward Plymouth ym Merthyr, yn golygu bod y blaid felen erbyn hyn wedi colli treian o’u seddi i gyd ar gyngor Merthyr. Ym mis Hydref collwyd set arall wrth i’r blaid Lafur ennill isetholiad i’r cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Kurt Morgan.

Nawr fe allwn ni holi cwestiwn ynglŷn ag hawl cynghorwr i newid plaid fel hyn, ac hynny heb yr angen am ymgynghori â’r bobl hynny a roddodd ‘x’ drosto – ynteu dros ei blaid (?) fis Mai. O mor ddemocrataidd!

Gallwn hefyd ofyn cwestiynau am ddarpariaeth y Gymraeg ar wefan Cyngor Sir Merthyr Tudful!

Ond be mae hyn yn ei olygu i’r democratiaid Rhyddfrydol yn awr? Pa obaith sydd yna i blaid na all hyd yn oed atal ei aelodau etholedig ei hun rhag droi eu cefnau arni?

Yn sydyn iawn (er nid mor sydyn a hynny ‘chwaith) mae prosiect 31 Kirsty yn ymddangos rhyw fymryn yn uchelgeisiol!

Dewi Dau

Share

1 comment:

Y boi i'r job said...

Does ne ddim byd gwaeth na gwleidyddion yn trio sgori pwyntiau yn erbyn ei gilydd (a mae o'n digwydd yn llawer rhy aml). Chware teg i'r cynghorydd am ddatgan hyn ond ga i godi y cwestiwn o be ydi gwir gymhelliad y cynghorydd hwn. Oni ydi o'n euog o geisio sgorio pwyntiau iddy fo i hun?